Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EURGRAWN MON, • WEü DRYSORFA HANESYDDAWL. Rhif. 4.] 30, EBRILL, 1825. [Gwerth 4|e HANES BYWGRAFFYDDOL MR. JÖIIN HOWARD, y dyngarwrenwocaf yn ei oes, aanwyd yn mhentref Hackney, ger Llundain, yn y flwyddyn 1727. Ei dad oedd drefnidiwr cyfrifol, yn byw yn y ddinas, ond bu farw yn fuanganàdael ei fab i ofalgwarcheidwaid. Er nad oedd bwriad ei rieni i ddwyn y gwr ieuanc i fyny yn y prif athrofeydd, eto gan ei awydd am ddysgeidiaeth annogai ei gyfneseifiaid ei ddanfon i Rydychain ; eithr rhwymwyd ef i drefnîdiwr yn Llundain, ond ei iechyd yn &d- feilio, prynodd y gweddill o'i amser gweinyddiad, ac aeth i roddi tro ì'rCyfandir. Ar ei ddychweliad oddiyno, lleteuodd yn Stoke Newington, yn hhŷ Mrs. Lardeau, gwraig synhwyrol a chymeradwy, yr hon fuasai yn waeledd ei hiechyd flynyddau, ac felly a fedrai gyd-ymdeimìo a'i waeledd yntau, yr hwn hyd yn hyn oedd yn parhau i'w flino. Ond ar iddo wellhau, trwy ofal tyner y wraig hon, cynnygiodd ei phriodi, ër iddi fod yn ddigon hên o fod yn fam iddo; a chan na wrandawai ar ei hymresymiadau yn arddangos anghyfartalwch y peth, undeb a fu yn 1752, ond rhoddodd ei heiddo i'w chwaer, fal y proiid mai nìd éiddo bydol oedd gwrthddrych ei serch. Tra y bu yn Stoke Newington, treuliodd ei holl amser yn darllen llyfrau, ac yn tfeiddio i ddyfuderoedd gwybodaeth ; chwiliodd hefyd weithydd y difeinyddion enwocaf, ac felly yr oedd ei fuchedd yn foesol, ac yn grefyddol. Yn mhen y tair blynedd er galar dwys iddo, Collodd ei wraig. Yr oedd ychydig cyn hyn newydd gael ei wneyd yn aelod o'r Gymdeithas freninol; felly yn ei alar ymroddodd i ym- weled â Lisbon, yr hon oedd yn wrthddrych drychinebus sylw cyfF- redinol, gan y ddaeargryn oedd newydd .ddigwydd ynddi. Yn ei daith yno, cymerwyd y líong yr oedd ynddi gan y Ffrancod, a bwr- iwyd ef i un o garcharau y wlad honno. Cafodd brawf yno o adfyd a goíidion y cyfryw leoedd, a dywedai yn ei lyfr ar Gyflwr Carchar- orion, " Gallai bod yr hyn a ddyoddefais yn y tro hwn, gwedi ych- wanegu, os nad deíFroi fy nghydymdeimlad tuag at y rhai annedwydd y sydd a'u hachos yn bríf destyn y llyfr hwn." Yn fuan gwedi ei ryddhau o'r carchar, sefÿdlodd yn Brokenhurst, yn agos i Lymíngton, Ue yn 1758 y priododd unig ferch Edward Leed», Ysw.; ond gwedi saith mlynedd o gyd-fyw dedwydd, bu farw ei wraig, ar e»edigaeth uuig faby Gwedi hyn ymrôddodd i gyaogi