Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PREGETHWR. Rhif 3.] MEHEFIN, 1841. [Lltfr I. T R E F N C A D W E D I G A E T H PECHADUR. ^xtQtfy A DRADDODWYD YN NGHYFARFOD MISOL Y WYDDGRÜG, Mawrth lleg, 1811, Ctan y Parch. JOHIÍ HITGHES, Font Robert. " Ac mcgys y dyrchafudd Moses y sarff-yn y diffeithwch, felly y mae yn rìiaid dyrch- afu Mab y dyn : fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fyw- yd tragywyddol." Toan iii. 14, lô, Llefarwyd y geiriau hyn gan yr Arglwydd Iesu yn yr ymddyddan pwysfawr a fu rhyng- ddo â Nicodemus. Yr oedd y dyn hwn yn wr mawr yn mysg yr Iuddewon; yr oedd yn "benaeth," neu yn aelod o'r Sanhedrim. Yr oedd yn grefyddwr, yn perthyn i'r sect fanylaf yn mhlith yr Iuddewon y dyddiau hyny; " dyn o'r Phariseaid." Ac yr oedd mewn lle mawr gyda y grefydd hono; " yn ddysgawdwr yn Israel." Ond er y pethau hyn oll, yr oedd y pethau a berthynent i'w heddwch yn guddiedig oddiwrth ei lygaid. Y mae llawer eto, er meddu pob manteis- ion, heb ganfod y petbau sydd yn perthyn i'w heddwch rhyngddynt â Duw. Y mae ymadroddion yr Arglwydd Iesu yn yr ym- ddyddan hwn o'r pwys mwyaf, ac yn haeddu ystyriaethau dwysaf pob dyn. Mae yma amryw o bethau anghenrheidiol eu gwybod er iachawdwriaeth, yn cael eu traethu yn y modd egluraf a chyfiawnaf. Y mater cyntaf yw yr anghenrheidrwydd am y cyfhewidiad mawr a raid fod ar bechadur cyn y gall fod yngadwedig. Mae y cyfhewidiad hwn yn cael ei osod allan trwy gydmariaetb; y gydmariaeth o eni; "geni drachefn," "geni o r Ysbryd." Tro mawr ar ddyn yw ei eni, ond tro mwy ar yr enaid yw ei eni dra- chefh. Dyfodiad dyn newydd i'r byd yw geni; dyfodiad dyn newydd o ras i'r galon i deymasu trwy Grist Iesu i fywyd tragyw- yddol, yw ail eni. Ni wêl neb deyrnas Dduw, ac nid â neb i mewn iddi, heb y cyf- newidiad mawr hwn. Yn llaenorol i eiriau y testun, y mae yr Arglwydd Iesu yn Uefaru geiriau sydd yn dangos pwy oedd; mae yn rhoddi golygiad ar anfeidrol fawredd ei Berson. "Ac ni esgynodd neb i'r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynodd o'r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef." Wrth esgyn i'r nef yma, nid ydym i ddeall myned i'r nefoedd, fel y mae eneidiau y seintiau yn myned, oblegid yr oedd llawer wedi esgyn felly cyn y pryd hwn; ond esgyn i ddirnad dirgeliou cyng- hor Duw. Ni esgynodd neb felly " oddieithr yr hwn a ddisgynodd o'r nef, sef Mab y dyn yr hwn sydd yn y nef." Yr oedd ef yn y nef pan yr oedd yma ar y ddaear. Nid gadael y nef a ddarfu i ddyfod i lawr i'r ddaear; yr oedd yn medru bod yn y nef, pan yr oedd yma o ran ei gorff a'i enaid ar y ddaear. " Ni welodd neb Dduw erioed," meddai gair arall; " yr unig-anedig Fab, yr hwn sydd yn mynwes y Tad, hwnw a'i hys- bysodd ef." Yr oedd yn mynwes y Tad pan yr oedd yma yn y byd. Y mae mawredd anfeidrol yn Mherson yr Arglwydd Iesu. Wedi llefaru y geiriau yna, i ddangos ei fawrhydi dwyfol; mae yn llefaru geiriau y