Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYDWYBOD. Traethawd buddugol Cystadleuaeth y "Ffenestr." Ctdwtbod yw y galln, nea y rhywbeth hwnw o eiddo y meddwl, sydd yn arolygu, gan gymmeradwyo neu an- nghymmeradwy pob myfyrdod a gweithred. Fod y fath allu yn perthyn i ni sydd sicr, gan ein bod yn ei deimlo ynom eia hunain, ac yn ei ganfod yn ereill. Y mae athr- onwyr"yn anghytuno yn nghylch natur 'cydwybod,' a pha fodd y mae yn canfod y gwahaniaeth rhwng rhinwedd a phechod. Dywed un dosbarth o Athronwyr ei bod yn can- fod un weithred yn dda a'r llall yn ddrwg, yr un modd ag y mae y meddwl yncanfod gwirionedd mewn mesuroniaeth; hyny yw trwy y rheswm, ac am hyny galwant y gallu hwn, neu 'gydwybod,' y synwyr rhesymol. Dywed dosbarth arall ein bod yn canfod da a drwg fel ag y mae synwyrau y corph yn canfod pethau tuallan i'r eorph. Wrth eistedd o flaen y tân, dywedwn ei fod yn wresog; ond yr hyn a fedd- ylìr yw, nid fod yn y tân wres, ond f'od dynion wedi cyfuno i alw yr effaith a ga y tân ar y corph yn wres. Y mae 'cyd- wybod' yn wahanol yn hyn. Cenfydd hi wahaniaeth rhwng gweithred ddaionus a drygionus, ac nid galw effaith gweithred yn dda neu yn ddrwg wna hi. Y gofyniad ydyw, beth ydyw Cydwybod o ran ei natur? Pa un ai cyn-greddfol nen ynte ffrwyth profiad ydyw? Credwn mai cyn-greddfol ydyw, ei bod wedi ei phlanu yn y fynwes gan Dduw, a hyny am y rhesymau canlynol:—1. Am íod ei phenderfyniadau mor gyflym. Pan glywwn am