Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYDYMAITH YR YSGOL SABBOTHOL Rhif. 33.] RHAGFYR, 1886. [Orp. II. CRIST FEL CANOLBWYNT YR YSGRYTHYRAU. GAN Y PARCII. B. DAVIES, TRBLECH. 3 MAE yr Ysgrythyrau, nid yn unig yn wirioneddau am Grist, ond hefyd yn wirioneddau yn Nghrist. Mae per- thynas y sylfaen a'r adeilad yn aros yr un gan nad pa mor uchel yr adeiledir, a pha uwchaf y codir y mur, pa ddrutaf y byddo y palas, a pha eangaf y byddo ei ystafelloedd, pwysicaf oll yw bod sylfaen dda iddo. Y mae perthynas y gwreiddyn a'r pren yn aros yr un, gan nad pa faint a fyddo nifer ei ganghenau. Yn sicr, y mae nifer y cang- henau yn dangos pa mor bwysig yw bod y gwreiddyn yn ddigon byw i sugno iddo ei fiun, ddigon o faeth o fywyd y ddaear i gynal yr holl bren, i ddwyn " ei ffrwyth yn ei bryd," ac i ymladd a holl gorwyntoedd y gauaf. Felly yw perthynas yr holl Ysgrythyrau â Christ, Efe yw eu sylfaen ar yr hwn y maent yn pwyso; Efe.yw eu bywyd o'r hwn y tynant eu maeth a'u cynhaliaeth; ac nid oes ynddynt ystyr a gwerth, ond yn eu perthynas â Christ. Grist yw canolbwynt ffeitiiiau yr Ysgrythyrau. Perthynas y ffeithiau hyn a Christ sydd yn cyfrif am eu bod wedi eu rhoddi i fewn yn y Beibl o gwbl. Maent yn ddolenau yn nghadwyn fawr Datguddiad; yn llusernau ar ymyl fíbrdd dyfodiad y brenin; yn aberoedd sydd yn gwneud i fyny afon fawr y "newyddion da;" ac yn sêr sydd yn cyfeirio i Fethlehem cyf- ryngwriaeth gras Duw. Ni chynwysa un llyfr a ysgrifenwyd y fath nifer o ffeithiau godidog a'r Beibl, a chofier mai ffeithiau ydynt; nid creadigaethau dychymyg beirdd ydynt, nid pethau jwsibl y nofelydd medrus ydynt, ond ffeithiau, ffeithiau sydd yn aros ar eu penau eu hunain yn Nghrist holl hanesiaeth y ddaear; fíeithiau a grewyd gan gymeriadau ysbrydol "dynion nad oedd y byd yn deilwng o honynt;" ffeithiau oecld yn gynyrch cymundeb meddwl a gwir- ioneddau tragwyddol, ac er fod y rhai a'u cyfiawnasant wedi cael mantais oddiwrthynt, fel y cyfryngau y gwelodd y byd ynddynt nerth argyhoedd- iad meddwl, cydymdeimlad calon, a pherthynas yr ysbrydol a chydwybod, eto, y mae y ffeithiau hyn yn byw yn nerth y cymeriadau a'u cyflawnasant —yr ysbrydolrwydd hwnw a'r ffydd anfarwol hono, sydd wedi galluogi y ffeithiau goruchel hyn i nofio diluw o angrhediniaeth yr oesau i lawr atom ni, ar y " rhai y daeth terfynau yr oesoedd." Ond pa beth oedd y tu ol i'r cymeriadau gogoneddus yma 1 Pa amcan oedd i gyflawniad y ffeithiau hyn 1 A welwyd y llaw oedd yn cyfatebu cymeriadau i'w hoes? Pwy a welodd y corn olew dorwyd ar ben pob Ioan Fedyddiwr yn oesau lluosog y ddaear, cyn oes anfarwol Iesu o Naz-