Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BEDYDD IOAK, 101 er," meddai, " ar Pedr ar ddydd y Pentecost, Frodyr, beth a wnawn ni, meddai y lluaws : a Phedr a ddywed- odd, Diwygiwch a throcher pob un o honoch yn enw Iesu Grist, er madd- euant pechodau; a dyna ddigon i ddangos y gwahaniaeth dirfawr rhwng gweinidogaeth Ioan a gwein- idogaeth Gristionogol! Ow Evans, druan ! Ai bwyd a düladjw y pwnc, ynte bedydd a'i ddyben ? Os caid fod Ioan a Phedr yn bedyddio i'r un dyben, y mae hyn yn profi fod bed- ydd loan yn fedydd Cristionogol, yn ol Evans ei hun. Gan ei fod wedi fy nhyfeirio i'r 3edd bennod o Luc, yr wyf finhau yn ei gyfeirio yntau i'r un bennod, yn lle y ceir lianes Ioan yn d> fod i bob goror yn nghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edi/eirwch er maddeuant pechodau, a dyna fedydd Ioan a bedydd Pedr yn un bedydd, ac felly anmhriodol oedd ailfedyddio neb er maddeuant pech- odau ; ac feallai i Mr. Evans weled hyn, ac mai dyna yw yr achos fod dyben bedydd Ioan mor ddyeithr iddo ef. Ond os trowch chwi i Mat. x. 10, cewch mai un bais oedd i fod gan bob un o ddysgyblion Crist, fel dysgyblion Ioan, pan oedd eu bed- ydd yn gyfyngedig i diriogaeth Is- rael. Eithr pe na buasai felly, beth y sydd a fyno hyny â bedydd fel bedydd ? Eto, dywed na dderbyniasai yr Apostolion yr un a fedyddiwyd i fedydd Ioan i'r eglwys, heb eu hail- fedyddio, pryd y dywed Crist " Na raid i'r hwn a olchwyd ond golchi ei draed." G-ofyna i mi a ydwyf, bob amser y gwelaf ddau beth o'r un ddull, yn penderfynu mai un ydynt. Os bydd dau beth yn ùn yn eu dull, byddwn yn íFol i dybied fod un dulí yn ddau ddull. Yr un modd pan welaf ddau yn arferyd yr un peth, barnwyf mai un peth yw yr un peth hwnw a arferir gan ddau, ac nid dau beth. Myfi a'r Tad, un ydym, ebai Crist. Nacê, dau, yn ol Evans! Hyn yw y ddilemma mae efe yn ym- "frrthod â'i deugorö, Gan, iddo addef mai trochi yr oedd Ioan, ac mai trochiad yw y bedydd Cristionogol hefyd, yr oedd yn naturiol (pe'n afresymol) iddo ymaflyd yn y ddau gorn; ond yn lle hyny efe a ym- wrthyd â'r ddilemma a'i deugorn. T mae ei waith yn ymwrthod â'r ddeu- gorn hyn yn genteel way o alw ei gredo yn ol, y rhai a gyfíesodd efe eisoes gergwydd y byd, sef mai trochi yr oedd Ioan, ac mai trochiad yw y duli Cristionogol. Dyna ddau gorn, a'r ddau yn un yn y dull. Y mae Evans yn ymwrthod, medd efe, â'r ddau gorn yna; gan hyny, nid yw efe mwyach yn Drochwr, ond yn Daeuellwr. Yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio er maddeuant pechodau, fel yr oedd Pedr ar ddydd y Pente- cost; gan hyny, dyna'r ddàu eil- waith yn un mewn dyben. Y mae gwaith Evans yn ymwrthod fel hyn â deugorn ei ddilemma ei hun, yn ei wneyd yn ymwrthodwr â dull a dyben bedydd! Yn mhellach, dywedir, " Os cy- sylltiad bedydd â Christionogaeth y sydd yn ei wneyd yn Gristionogol, ac os yr un peth yw bedydd yn mhob oes o'r byd, felly yr un oedd bedydd Moses â bedydd Ioan, ac nid oedd yr un o'r ddau yn Gristionog- ol." Dywedafyma, os yw trochi yn fedydd, ac os oedd Moses yn trochi neu yn bedyddio, mai yr un peth ynddo ei hun oedd bedydd Moses â bedydd Ioan. Cofier, hefyd, mai nid cysylltiad bedydd â Christionogaeth y sydd yn ei wneyd yn fedydd, ond yn Gristionogol. Pe byddai i faban gael ei drochi, byddai jnfedydd, ond nid yn Gristionogol. " Os wyt ti yn credu, fe a ellir." Ond am fed- ydd y môr coch, neu fedydd Moses, nid oedd yn ofynol am na flỳdd nac edifeirwch, ac nid oedd yn cynwys, ar y goraf, ond iechawdwriaeth y corff; ond am fedydd loan, Crist, a'i Apostolion, bedydd er maddeuant ydoedd — a dyna iechawdwriaeth enaid. TJn peth eto o eiddo Evans, ac yna i derfynu, Add,efir gaaddo mai