Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

11. Cymdeithas yr Heliwr Cyntefig Ymgynhyrfiad yr hen ysbryd YN ieuenctid y dydd, aeth Pwyll Pendefig Dyfed i hela, ei geffyl, ei gorn a'i gwn gydag ef. Erbyn amser gwawr ein hanes llenyddol, pwnc ymddiddan y pendefigion oedd hela, difyrrwch i'w ffitio rhwng ymladd, canu ac yfed. Serch hynny, y nod oedd cig i'w fwyta, sef y twrch ysgythrog llym neu'r carw coch; y cig i'w rostio ar bicell haearn tros wely tanboeth, a'r saim yn sïo ar y marwor cochion neu'n llosgi'n waed-ddu ar wyneb disglair yr ysgerbwd. Heddiw yng Nghymru mae'r fath helgig urddasol wedi diflannu, yr hen gynefin coediog bron wedi ei llwyr ddistrywio i wneud lle i feysydd fferm, neu i'w llosgi yn ffwrneisiau anniwall y Chwyldro Diwyd- iannol. Bellach erlid y llwynog y mae'r crach yn eu siwtiau pinc — "the unspeakable chasing the uneatable', chwedl Oscar Wilde. Mae Iorwerth Peate, yn ei astudiaethau ar ddatblygiad tai Cymru, wedi dangos fel y tuedda math arbennig o dy i lithro i lawr y raddfa gym- deithasol yn ystod cyfnod hir o amser. Gall plasdy'r bymthegfed ganrif ddod yn ffermdy'r ddeunawfed, ac weithiau, ar ôl gwasanaeth fel sied i dractor, orffen ei yrfa mewn amgueddfa werin yn yr ugeinfed ganrif! Gyda hela, proses gwbl wrthgyfer- byniol a fu. Gwelwyd cyfundrefn fyw, a roddodd gynhaliaeth i ddynoliaeth dros ran helaethaf ei datblygiad, yn colli ei heffeithiolrwydd ac yn cael ei chyfyngu i fyd bychan symbolaeth a statws, yn union fel cleddyf yn cael ei urddasoli yn ei ddiryw- iad fel masgod i gatrawd tanciau. Hwyrach mai dim ond ym mherfeddion y nos, gyda rhwyd ar draws afon a chlustiau yn effro am bob swn, y mae'r hen grefft yn parhau yn ei dull pur-er mwyn ennill bywoliaeth, ac yn perthyn i bawb. Yn ôl barn ap Huw yn 1852, rheswm da i Gymro ymfudo i Awstralia oedd os 'ymgynhyrfai yr hen ysbryd saethu ynddo Nid rhaid iddo yn dragyfyth guddio y gwn yn y twmpath eithin', a gobeithiai na fyddai trigolion rhydd-feddwl y wlad honno 'hyd dydd Brawd, [yn] gosod gwr a llaw-ddryll i am- ddiffyn bywydau man-adar a gwylltfilod ei choed- wigoedd diderfyn'. Yr un brawd a ddywedodd am ranbarth Manneroo, lle'r ysgrifennaf y bennod hon, fod 'aur fel llwch drwy yr ardal'. Credaf mai optimist oedd, ac er bod digon o lwch yma, nid melyn ei wedd RHYS M. JONES Helwyr cyfoesol â Hen Oes y Cerrig Os trechu pellter oedd buddugoliaeth gwyddon- iaeth cyfnod Galileo, yna trechu amser oedd camp gwyddoniaeth yng nghyfnod Darwin. Mae'n rhyfedd cofio fod cawr y meddwl fel Newton, er iddo allu dychmygu'r glôb yn symud drwy filiynau o filltiroedd o wagle o gwmpas yr haul, yn credu na chrewyd y bydysawd hwn ond ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl. Yn 1650 ceir yr Archesgob Usher o Armagh, fel y rhelyw o haneswyr ei oes, yn gosod dyddiad pendant i'r Creu, sef 4,004 o flyn- yddoedd cyn Crist. Dinistriwyd y feddylfryd hon gan ymosodiadau'r daearegwyr a'r biolegwyr esblygaidd, ac erbyn canol y ganrif ddiwethaf, yr oedd rhai gwyddonwyr yn fodlon meddwl y gellid mesur oed y byd mewn miliynau o flynyddoedd. Un o'r gwrthwynebwyr mwyaf ystyfnig i'r damcaniaethau newydd oedd y Deon William Buckland, athro Daeareg yn Rhydychen, Deon Westminster a phrif ladmerydd ysgol y 'catas- trophiaid'. Credent hwy fod prosesau creu'r byd, tarddiad yr holl greigiau, a phob ffenomen ddaear- egol arall i'w priodoli i drychinebau enbyd megis dilyw Genesis yn y Beibl. Seiliwyd llawer o ddamcaniaethau'r ysgol hon ar archwiliadau Buck- land ei hun yn ogof Twll yr Afr, Paviland, ar arfordir clogwynog Penrhyn Gwyr yn 1823. Yn yr archwiliad, a oedd, serch y beirniadu sydd heddiw ar dechnegau cloddio Buckland, yn un o'r archwil- iadau archaeolegol cyntaf a wnaethpwyd erioed mewn ogof, fe ddarganfuwyd ysgerbwd 'merch' â'i hesgyrn wedi eu lliwio'n goch gydag ocr. Yn gysylltiedig â'r esgyrn yn yr un haen, yr oedd celfi callestr ac esgyrn anifeiliaid diflanedig, megis y rheinoseros, y mamwth a'r heina. Gwrthododd Buckland dderbyn goblygiadau'r ffeithiau hyn, sef y dylid mesur hynafiaeth dyn mewn cyfnod o gryn amser, a dehonglodd fod y bedd a gynhwysai weddillion 'boneddiges goch Paviland' yn perthyn gladdfa yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid. Gwyddom bellach, wrth gwrs, mai gweddillion bachgen ieuanc, ac nid merch, a gladdwyd yn y bedd ym Mhaviland. Cofiaf syllu ar yr esgyrn rhuddgoch yn eu câs gwydr yn Amgueddfa y Brifysgol, Rhydychen, tua'r un pryd ag y sefyd lwyd, drwy'r dull carbon radio, eu bod yn ddeunav mil o flynyddoedd oed o leiaf. Sylweddolwn yn aw