Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr hen athronydd Groegaidd Panta rhei, "Fedrwch chi byth ymdrochi ddwywaith yn yr un afon Hon ydyw'r afon, ond nid hwn yw'r dwr A foddodd Ddafydd Ddu. Mae pont yn awr Lie 'roedd y rhyd a daflodd yr hen wr I'r ffrydlif fach a thragwyddoldeb mawr. Yma bu Arthur, yma bu Arthur dro Yn torri syched hafddydd ar ryw rawd; Ac odid na ddaeth Gwydion yma ar ffo Ni ddaw ddim eto, na Gilfaethwy ei frawd. Rhyfedd yw ffyrdd y Rhod sy'n pennu tymp I’r ffrvvyth a ddisgyn, ac i ddyn sydd wer — Y chwrligwgan hon a bair na chwymp Oraens y lleuad a grawnsypiau'r ser. Ow! Fory-a-ddilyn-Heddiw-a-ddilyn-Ddoe: Pa hyd y pery echelydd chwil y sioe? Ie, hon ydyw'r afon a foddodd Ddafydd Ddu'. Ond sut yr aeth ei enw bron yn angof gan ei gydwladwyr ganrif a chwarter wedi ei farw? Bardd cadeiriol cywrain, a gyd- nabyddid yn ei ddydd yn Dywysog Beirdd Gwynedd i gyd, ac eto erbyn heddiw aeth ei fri, fel ei awdlau, i lawr 'Afon Amser' gyda'r lli. Pe bawn i'n gofyn i'r cwmni urddasol hwn, faint ohonoch-chi 'fedrai adrodd cymaint ag un llinell o'i waith er iddo gyfansoddi miloedd? A phe bawn i'n pwyso wedyn: 'Dowch wir, dowch' (yn null gweinidog yn crefu am adnod neu brofiad gennych mewn seiad), fe ddichon y byddai rhai ohonoch, o grafu gwaelodion y cof, yn gallu galw yn 61 benillion o gerdd rydd gan Ddafydd Ddu a ddysgasoch yn blant: Pwy im' a suai uwch fy nghrud Pan oeddwn wanllyd faban? A phwy fu'n effro lawer gwaith Drwy'r hirnos faith, anniddan? Pwy a'm gwarchodai rhag pob cam? Fy annwyl fam fy hunan. Yn wir, 'Rhyfedd yw ffyrdd y Rhod'! Pen bardd cynganeddol Cymru yn ei genhedlaeth, ond erbyn heddiw ni all pobl ddyfynnu namyn un gerdd o'i waith a honno'n gerdd rydd a chyfieith- iad o gan Saesneg sentimental, 'My Mother'. Ni ddylai yr anwybodaeth hon o fywyd a gwaith bardd mor dda gael parhau, ac ymgais i ail-ennyn diddordeb y genhedlaeth hon yn Nafydd Ddu Eryri fydd y sgwrs yma.