Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DWNIAID By G. H. HUGHES. "You will not perhaps be pleased with the origin of your name. It is Dwn=swarthy." Felly yr eglurai Theophilus Jones, hanesydd Brycheiniog, enw'r Parch. James Donne, Croesoswallt, mewn llythyr ato yn 1804.1 Eglurhad cyffelyb sydd yn llawysgrif Peniarth 140, td. 146:- dau ruffydd oedd ddau efell ac un a roed yw vagu at gr. gethin a ffann ddaeth adref ef a elwid gr. gethin a ffan aeth i loegr i galwyd ef gr. dwnn dwnn yw kethin ynghymraec. -ond tra gwahanol yw esboniad Lewys Dwnn2:- Gruffydd gethin oedd jentleman issier y brenin sion ag efe a dynodd y bwa kryf yn Lloegr ag a saethodd saeth lydan ag a dowaid brenin wrtho "wel Dwn Gruff b" ag o hynny i galwed ef Gruff Dwnn. A sylwer eto'n olaf ar ddyfyniad o achau Peniarth 140:- gruff. dwnn ag owain dwnn ap robart dwnn ap gr. dwnn ap mred. ap henri dwnn ap gr. dwnn yr hwnn kyntaf a gafas henw dwnn [td. 214]. Fe gawn ddangos mai anodd yw deall y gosodiad olaf hwn, ac mai doethach, o ganlyniad, fydd troi heibio eiriau'r Heraldic Visitations. II. Sylwer ar ddarn bychan o'r ach3 :­ Cadwgan Vychan Griffith Dwnn = Ann Griffith Ieuan Gethin, ferch Cadwgan ap Cadwgan ap Cadwgan Croesasgwrn4 ap Ieuan, Rhydodin Iscoed Henry Dwnn, = Agnes, Croesasgwrn merch Ieuan Lloyd, a Chydweli Pwlldyfach Meredith Dwnn Ym mis Tachwedd, 1364, rhoes "Griffinus Don" a "Griffinus ap Cadwgan" ddwy erw o dir yn rhodd i Briordy Caerfyrddin. 1 N.L.W. 12368 E. 2 Heraldic Visitations, 1. 21. s N.L.W. 12359 D, 258 Heraldic Visitations, 1. xvi, 20-2, etc. Llygriad diddorol ar y ffurf Croesallgwn. Ym mhlwyf Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin y mae'r ty. 6 Cartularium S. johannis de Caermarthen, 98, 99.