Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SION DAFYDD RHYS. II. Y N yr ysgrif ddiwethaf fe geisiwyd profi mai o Lanfaethlu ym Môn yr hanoedd Siôn Dafydd Rhys. Awn rhagom bellach i sôn am ei addysg a'r mannau y bu'n byw ynddynt o bryd i'w gilydd. Nid oes dim yn hysbys am addysg gynnar Siôn Dafydd Rhys, oherwydd, fel y dangoswyd eisoes, nid oes sail i gredu ei ddysgu yn San Dunwyd. Yr unig un, heblaw Iolo Morganwg, sy'n crybwyll dim am ei addysg yw awdur y Cambrian Plutarch. The rudiments of his education," ebr ef, "he probably received at his native place." Ni wyddys pa gyfleusterau dysgu oedd yn Llan- faethlu neu'r cyffiniau yn y cyfnod hwn. Byddai plant boneddigion yn aml dan addysg gyda bardd neu athro cyflogedig a drigai gyda'r teulu. Ond nid gwr bonheddig mo Siôn Dafydd Rhys. Weithiau byddai nifer o blant tlodion hefyd o dan athro plant yr uchelwr, yn ffurfio math o ysgol. Dichon i Rys fod mewn ysgol felly; ymhle yr oedd ysgol felly i'w chael, ni wn. Byddai gan y beirdd ysgolion i ddysgu'r gynghanedd a'r mesurau a gramadeg Cymraeg fel y gwyddent hwy ef. Ond hawdd dywedyd gyda sicrwydd na bu Siôn Dafydd Rhys erioed yn dilyn ysgol felly, oherwydd, fel y ceir profi yn nes ymlaen, ni wyddai ef ddim am reolau Cerdd Dafod ond a gasglodd trwy ddirfawr lafur yn hwyr ei einioes. Wedi diddymu'r mynachlogydd yr oedd mynaich crwydr ambell dro yn cadw ysgolion, a dyna gyfle arall i fachgen o Gymro dderbyn addysg. Bu yn y mynachlogydd ysgolion, ond difawyd y sefydliadau hynny yn fuan wedi geni Rhys, sef rhwng 1536 a 1539. Nid oedd yr Ysgolion Gramadeg eto mewn bod. Nid oes inni felly ond tybio ddarfod i Siôn Dafydd Rhys gael ei addysg mewn ysgol gyda mab rhyw foneddwr neu gan fynach crwydr.