Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFR CYFRAITH 0 DDYFFRYN TEIFI: DISGRIFIAD 0 BL. ADD. 22,356 TAN yn bur ddiweddar, prif ddiddordeb efrydwyr Cyfraith Hywel oedd holl gwestiwn dechreuadau'r gyfraith frodorol: beth oedd hyd a lied ymwneud Hywel Dda a chyfreithiau ei wlad; a fedrwn roi unrhyw goel o gwbl ar yr hanesyn a adroddir yn y rhan fwyaf o'r llyfrau cyfraith sydd wedi goroesi ynghylch cynulliad y Ty Gwyn; a ddaeth llyfr cyfraith i fod yn sgil y fath gynulliad ac os do, a oes modd inni, dros fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, ganfod cynnwys y llyfr hwnnw? Canlyniad y diddordeb arbennig hwn fu gosod gorbwyslais ar y testunau cyfraith cynharaf llawysgrifau'r drydedd ganrif ar ddeg nes bwrw'r rhai diweddarach i'r cysgod yn llwyr. Bellach cerddodd astudiaethau Cyfraith Hywel yn bell o'r safbwynt genetig hwn. Sylweddolwyd fod cyfreithiau brodorol Cymru yn faes helaeth a ffrwythlon ar gyfer rhychwant eang o astudiaethau, a bod y llyfrau cyfraith diweddarach llawysgrifau'r bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif lawn mor ddiddorol a'r rhai cynharaf o ran y goleuni a daflant ar faterion cyfreithiol, cymdeithasegol ac ieithyddol, er enghraifft, yn y cyfnod rhwng y Goresgyniad Edwardaidd a'r Ddeddf Uno. Mae'r llawysgrif honno yn y Llyfrgell Brydeinig a adwaenir bellach fel BL. Add. 22,356 yn llawysgrif o Gyfraith Hywel a luniwyd tua chanol y bymthegfed ganrif; perthyn felly i gyfnod olaf gweinyddu'r gyfraith frodorol yng Nghymru.1 Fe'i defnyddiwyd yn helaeth ar gyfer y ddau argraffiad cyfan- sawdd o'r cyfreithiau Cymreig a ymddangosodd cyn i ysgolheictod diweddar roi sylw iddynt, sef Leges Wallicae (1730) ac Ancient Laws and Institutes of Wales (1841), a cheir disgrifiad cryno ohoni yn y naill a'r Hall.2 Fe'i disgrifir hefyd yn y Catalogue of Additions to the Manuscripts in the British Museum in the Years MDCCCLIV. MDCCCLX., t. 638, ond y disgrifiad gorau a chyflawnaf o'r llawysgrif hon a gyhoeddwyd hyd yn hyn yw eiddo J. Gwenogvryn Evans yn ei Reports on Manuscripts in the Welsh Language.3 Fodd bynnag, gan fod y disgrifiadau hyn oil yn gadael llawer heb ei ddweud, a'r diwethaf yn arbennig yn gwneud nifer o osodiadau di-sail,4 cynigir isod ddisgrifiad manwl o BL. Add. 22,356.3 A: CYNNWYS Cymraeg yw iaith y llawysgrif hon ac ynddi ceir fersiwn o Gyfraith Hywel yn 61 dull Blegywryd.6 Dechrau ff. 4: Howel da o rad du6 mab gadell brenhin kymry oil a welas kymry yn kam arver o gyfritheu a devodeu a dyfynn6ys atta6 6heg6yr o bop kym6d yg kymry oe deyrnas