Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARCSYDD O SARDINIWR AC ARGYFWNG CYMRU Yn un o'i gyfnodau olaf o salwch yn y carchar, bu Antonio Gramsci, ail arweinydd Plaid Gomiwnyddol yr Eidal, a'r mwyaf ohonynt, yn paldaruo am ddyddiau ar y tro am anfarwoldeb yr enaid yn yr iaith Sardineg. Y mae hyn yn ymddygiad anghyflredin gan arweinydd plaid gomiwnyddol, ni fyddai'r cymrawd Bert Pearce o Gaerdydd yn ei gymeradwyo o gwbl. Sardiniwr oedd Gramsci. Yn holl gynnyrch anferth y diwydiant Gramsciaidd, claddwyd y gwirionedd hwn o'r golwg. Yr oedd yn ugain oed yn ymadael â'i wlad araf, dlawd, ofergoelus a chyntefig, a'i chynhennau diddiwedd, Middle March neu Fawddwy Eidal yr unfed ganrif ar bymtheg, lle'r enwid pob degawd ar ôl gwylliad o'r olyniaeth draddodiadol. Mewn llawer ffordd, yr oedd yn gas ganddo'r lie. Croesawai fonolith modern Turin, prifddinas y ceir modur, yn yr un modd, ar lawer cyfrif, ag y cyfarchodd Aneurin Bevan Goleg Llafur Llundain ar ôl Tredegar: fe'i cyfarchai am ei moderniaeth, yr hyn a welai fel ysgogiad chwyldroadol a rhyddhaol y broses gynhyrchu, gyda math o afiaith disgybledig a'i gwnaeth yn un o'r cyntaf i ymateb i'r Dyfodolwyr, fel y gwnai i Pirandello. Peintiai ddarlun anrhaethol lwm o'i blentyndod yn Sardinia. Ac eto, teimlai grafangau gwlad ei eni yn dirdynnu ei fron beunydd, yn y cariad, casineb, gobaith ac anobaith hwnnw a fydd yn gyfarwydd i bob Cymro a Chymraes. 'Deheuwr ydwyf poerodd at un o epaod gorilla Mussolini yn Siambr y Dirprwyon. Ysgogiad canolog ei fywyd oedd uno pobl wladaidd y De (yn cynnwys Sardinia) gyda gweithwyr y gogledd mewn bloc organig a fyddai'n esgor ar wir genedl yr Eidal, yn cofleidio, ond heb eu mygu, y llu o is-genhedloedd a oedd yn rhan ohoni — yn sosialaeth ryngwladol Ewrop a ryddhawyd o'i chadwyni. Yn ystod ei arwahanrwydd unig olaf, trwythodd ei hun yn ei ynys; ei brosiect olaf oedd ysgrifennu ei hanes yn nhermau ei farcsiaeth arbennig a rhyddgredol ef ei hun. Pan ofynnwyd iddo unwaith ym Mosgo i'w egluro ei hun a'i hynodion, atebodd yn syml, 'Sardiniwr ydwyf heb gynhlethdodau seicolegol' — yr ymddengys ei fod yn greadur prinach hyd yn oed na Chymro neu Chymraes yn y cyflwr hapus hwnnw. Gadawodd hyn ôl pendant ar ei farcsiaeth — er mai efallai dim ond person o lwyth ymylol ond creadigol o oroeswyr a allai ganfod hynny. Nid oeddwn wedi clywed sôn am Gramsci tan i mi fynd i Turin ym mil naw pump naw i adysgrifio'r ohebiaeth rhwng George Sorel a'r cawr deallusol hwnnw, Benedetto Croce. Darganfum bod Turin wedi llwyr ymroi i addoli Gramsci. Fel y rhan fwyaf o gymunedau'r Eidal (a llawer un yng Nghymru), talai'r ddinas wrogaeth i unrhyw un y gellid ei ystyried yn fab neu ferch o'r fro, boed yn Count Cavour neu'n gampwr