Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y byd cyfoes. Yr oedd John Elias, mae'n amlwg, yn bencampwr ar greu awyrgylch. Yn ôl Robert Williams, hen flaenor o Lanfechell, yr oedd John Elias a John Jones, Tal-y-sarn, yn pregethu un tro mewn cymanfa yn Amlwch: Yr oedd cryn dipyn o ystwyrian o gwmpas cyrion y dyrfa ar y maes tra oedd John Jones yn pregethu. Ar ôl iddo orffen, daeth Elias at yr astell ar y llwyfan â'i het am ei ben. 'Yna tynnodd hi yn araf a rhoddodd hi o'i flaen ar yr astell.' Dechreuodd y dyrfa lonyddu. 'Y symudiad nesaf oedd tynnu ei fenyg a'u rhoddi, fel y medrai o, yn ei het.' Nid oedd pawb yn y dyrfa eto'n hollol dawel. Gafaelodd Elias yn ei het eto a'i symud hi ychydig oddi wrtho. Erbyn hyn, yr oedd pob un yn y dyrfa fawr yn ei wylio'n astud a dechreuodd yntau ar ei bregeth.50 Rhaid, o'r dechrau, oedd creu awyrgylch addas, a rapport rhwng y pregethwr a'r gynulleidfa dim ond wedyn y gellid dechrau traethu gydag unrhyw arddeliad. Ym mhrofìad Bruce Rosenberg, ceir dau fath o bregethwr y rhai sy'n pregethu'n fyrfyfyr/ysbrydol, a'r rheini sydd ynghlwm wrth nodiadau. Weithiau ceir perfformiadau trothwyol pryd y dechreuir gyda chymorth nodiadau, cyn symud ymlaen i bregethu byrfyfyr adlewyrchir y newid yn rhythm y perfformiad.51 Darlun tebyg a geir yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Darllenai Daniel Owen ei bregeth 'mewn llais isel, heb godi ei lygaid i edrych ar y gynulleidfa, a golwg nerfus arno';52 mae John Elias, ar y llaw arall, yn cydnabod yn ei hunangofiant nad oedd ganddo 'amser na hamdden i ysgrifennu notes rheolaidd o'r hyn [yr oedd] yn ei lefaru Ni fyddwn yn ceisio rhag-fyfyrio geiriad pregeth, ond disgwyl golau a chymorth wrth lefaru, disgwyl cael geiriau addas.'53 Pan ofynnodd un gweinidog pryderus a ddylai ddarllen ei bregeth neu 'ei thraddodi o'r meddwl', atebodd gweinidog arall, 'Efallai mai ei darllen fyddai oreu i chwi; ond pa fodd bynag, gadewch i ni gael cymmaint o dân Cymraeg ynddi ag y byddo modd'; sylw John Elias, fodd bynnag, oedd, 'O, nid oes modd cario tân mewn papyr, Syr.'54 Diau y byddai Christmas Evans wedi cytuno 'dysgai ei bregethau ar dafod leferydd yn wreiddiol, ond gan dybied y gallai fod hynny yn cau allan gynorthwyon yr Ysbryd Glân, aeth i bregethu yn fyr-fyfyr.'55 Ysgrifennu amlinelliad yn unig o'i bregethau a wnâi William Williams o'r Wern,56 fel Dali Dafis yntau ysgrifennai Dali Dafis 'ar gefn envelope, darn gwag o lythyr, notice oddiwrth yr awdurdodau i drwsio y perthi A hyd yn nod ambell i lythyr caru dderbyniodd yn nyddiau ei ieuenctyd Yr oedd ganddo ddull arbennig o gwtogi a thalfyrru geiriau, er enghraifft 'cr' am Cristion, 'tglb' am tragwyddoldeb. Mae ei gofìannydd yn ymddiheuro nad yw'r pregethau printiedig yn nodweddiadol ohono: