Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Winifred Coombe Tennant: 'Mam o Nedd' mawr ei nodded YR AIL RAN S.P.R. [Society of Psychic Research] and cognate interests have of course become the chief thing in my life, the absorbing interest, the greatest source of hope and strength. Winifred Coombe Tennant Ionawr 1909 All this must, I believe, profoundly influence modern thought for the evidence cannot be explained away or accounted for except by admitting the survival of human personality in its fullest and most vivid form. God willing, I will devote my life here and Beyond for this work. W.C.T., Chwefror 1909 Christopher a Raymond Fel y mynegwyd ar ddiwedd y rhan gyntaf o'r drafodaeth 'roedd yna ddwy ochr i fywyd Winifred Coombe Tennant. Ar y naill law, 'roedd ei bywyd cyhoeddus a symbylid gan ei radicaliaeth iachus yn llawn o frwdfrydedd a chymwynasgarwch. Ar y llaw arall, 'roedd ganddi fywyd cudd a feithrinid, fel y nodwyd eisoes, yn y dirgel a than orchudd anhreiddiadwy. Cododd amheuaeth am fodolaeth yr ail elfen yn gynnar yn yr ymchwil, a hynny am reswm digon syml. Paham y bu i Syr Oliver Lodge, un o wyddonwyr mwyaf y cyfnod, ysgrifennu cofiant a thalu teyrnged hael i fab Mrs. Coombe Tennant? Nid pamffledyn oedd y gyfrol Christopher (1918), ond llyfr sylweddol o bron dri chant o dudalennau, a choffâd am ddyn ifanc a laddwyd fel miloedd ar filoedd o'r 'hogia' druan cyn cyrraedd ugain mlwydd oed.