Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Winifred Coombe Tennant: 'Mam o Nedd' mawr ei nodded RHAN I Wrth archwilio'r manylion am fywydau real ac ni ddylai'r hanesydd byth droi'r manylion o'r neilltu mae canolbwyntio'r sylw ar yr unigolyn yn anochel. 'Rwy'n credu mai felly y dylai pethau fod. Nid yw na haneswyr, na meddygon chwaith, yn ymwneud â bywydau'r mawrion yn unig. Bywyd yn ei gyfanrwydd yw eu talaith, pobl o bob math, a'u hamrywiol gyflyrau. Mae profiadau, disgwyliadau a dyheadau'r unigolion — a'u teuluoedd yn parhau'n graidd hanes cymdeithasol. Yr Arglwydd Briggs Araith Osler (1990) Coleg Brenhinol y Physigwyr Mae'n debyg fod enw Mam o Nedd yn eithaf hysbys i ganran sylweddol o'r Cymry sy'n Eisteddfodwyr selog, ac i'r mwyafrif mae'n siwr o aelodau Gorsedd y Beirdd. Mae rheswm digonol am hynny, sef ei chymynrodd hael a dderbyniwyd i goffrau'r Eisteddfod Gened- laethol ym 1957, ac a adnabuwyd byth er hynny fel 'Cronfa Mam o Nedd'. Bu ei rhodd, neu i fod yn fanwl gywir y llog ar y cyfalaf, o werth arbennig i'r Eisteddfod ar hyd y blynyddoedd. Pa sawl gwelliant dymunol a pha sawl cynllun brwd a fyddai wedi disgyn ar fin y ffordd oni bai am gymorth y Gronfa hon? Mae haelioni Mam o Nedd yn parhau'n destun diolch, ond mae'n syndod mai ychydig o Eisteddfodwyr a Gorseddogion sy'n gwybod dim amdani fel person. Wedi holi'n eithaf helaeth yn eu plith daeth yn amlwg nad oedd y mwyafrif ohonynt yn gwybod beth oedd ei henw