Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anerchiad John Gwilym Jones ym Mrynrhos brynhawn ei farw Dydd Sul, 16 Hydref, 1988 2.45 p.m. Yn gyntaf hoffwn ddiolch yn fawr iawn am y gwahoddiad hwn i ddeud gair yn y cyfarfod agor y festri a weddnewidiwyd yn gapel. 'Rwy'n cydnabod y bydd yr ychydig eiriau hyn yn or-bersonol ac weithiau'n amherthnasol ond fel 'na y daethant a rhaid oedd imi fodloni arnyn nhw. Yr unig gyfiawnhad ydi iddyn nhw ddod yn sgîl atgofion am yr adeilad hwn. Yn fy mhrofíad i ac mae tipyn gormod ohono gennyf, ysywaeth, erbyn hyn unig fantais henaint yw ei fod yn ehangder o ofod gorffennol i'w gofio. Ac er y dywedir fod cof am y gorffennol pell yn fwy byw nag am y gorffennol agos dydi hyn ddim yn hollol wir i mi. 'Rwyn cofio'r gorffennol pell fwy na phedwar ugain o flynyddoedd yn ôl wrth gwrs, ond ei gofio'n fwy cyffredinol na manwl a wnaf. Er nad wyf yn fawr o grefyddwr mae gennyf feddwl y byd o Brynrhos. Mae'r festri ma'n rhan o fy mywyd i. Nid oedd iddi'r parch a fynnai'r capel. 'Doedd dim angen gwisgo dillad dy Sul ac esgidiau ysgafn. Gwnâi dillad gwaith bob dydd y tro ac i fechgyn esgidiau hoelion mawr neu hyd yn oed glocsiau. Erbyn hyn lliniarwyd y llacrwydd a cheir y syberwyd capelaidd. Ac yma mi hoffwn i longyfarch yn gywir iawn — heb enwi neb bawb a fu ynglyn â gweddnewid yr hen festri foel a diaddurn i fod yn adeilad mor ddeniadol a chwaethus. Yr un ffurfyn union ar wahân i'r drws ar y dde ydoedd iddi yn fy ieuenctid i. Ond yr oedd fel oriel ddarluniau o ddigwyddiadau a chymeriadau Beiblaidd ar y parwydydd. Ar y cefn yr oedd dau siamplar o weddi'r Arglwydd, un mewn llythrennau du a'r llall yn fwy lliwgar. Mrs. Jones, Betws, chwedl ninnau, oedd wedi ei bwytho. 'Roedd hefyd ddwy farwnad gyda llun y gwrthrych arnynt a phenillion un, os nad yw fy nghof yn fy nhwyllo i Evan Owen, Bryn Gwenallt, a'r llall i Thomas Williams, Tyddyn Meinsier. Ac yn rhimyn hir yr oedd modulator. Soniaf am hwn yn nes ymlaen. Yn y festri, yn naturiol, y cynhelid holl weithgareddau'r wythnos waith. Ar nos Lun cynhelid y cyfarfod gweddi, y merched yn eistedd ar yr ochr chwith a'r dynion ar y dde. 'Roedd y didoli hwn yn ddeddf y Mediaid a'r Persiaid a'r ddwy ochr yn gymharol lawn. I fod yn onest, yn erbyn f ewyllys yr awn yno, ond cofiaf na fu erioed brinder rhai i gymryd rhan-i fy niffyg amynedd a'm diddordeb i, gormod o lawer yn aml. Y mae ym meddiant Esyllt ddyddiadur ei hen daid, David Williams, Bryn Elen. Pan oeddwn yn Utica yn aros efo Vaughan, Talyllyn, bron i dri deg o