Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

asai'n fodlon talu'r dreth (megis Gwasanaeth Milwrol Gorfodol, Diffyndollaeth Ymerodrol, etc.) y gofynasai'r Toriaid, yn ôl y sibrydion oedd ar led ar y pryd, amdani fel pris eu cydsyniad hwynt. Barnai ef fod y tir yn llawn siglennydd a pheryglon i'r naill blaid fel y llall, ond gyda'i eangfrydigrwydd arferol, parod oedd i adael y sawl a farnai'n wahanol dreio eu llaw, a gwyliai gamau'r symudiad i'w derfyn anocheladwy gyda difyrrwch ac fel edrychydd a safai ar wahân iddo." Stori ryfedd ydyw hon, a buasai ei gwybod yr adeg honno, pan oedd y wlad yn ferw, yn peri syndod mawr. Y mae'n gwestiwn a oedd "eangfrydig- rwydd arferol Asquith yn peidio â throi'n ddiffyg ynddo ar rai adegau. Y mae'n rhaid myned heibio Deddf y Senedd a helyntion dau etholiad 1910. Petrus ydyw Mr. Spender ynghylch Deddf y Senedd. Gan fod y gofod yn brin, gwell, hefyd, ydyw peidio â cheisio delio à helyntion pasio Mesur Ymreolaeth Iwerddon a'r gwrthryfel yn Ulster. Un o'r pethau mwyaf nodedig yn y llyfr ar y pen hwn ydyw'r dadlennu pa fodd yr oedd gwr fel y diweddar Syr Henry Wilson, ag yntau nid yn unig yn swyddog yn y fyddin ond hefyd yn y Swyddfa Ryfel, yn dal cyfathrach â'r bobl oedd, yn Ulster a'r wlad hon, yn bygwth herio awdurdod y Senedd. Y mae'n amlwg fod llawer o bobl wedi eu perswadio eu hunain yn y cyfnod hwnnw nad oedd teyrngarwch yn rhin- wedd onid oeddynt hwy yn cael eu ffordd eu hun a llywodraethu. Yma, fel bob amser, safai Asquith dros hawliau diymod cyfraith a senedd-prif ddiogeliadau'r werin mewn unrhyw gyfnod wedi'r cwbl. IV Wrth agosáu at gyfnod y Rhyfel rhydd Mr. Spender bwys ar y ffaith na ellid cymryd unrhyw beth ar ei ben ei hun. Yr oedd helyntion Deddf y Senedd, Iwerddon, ymdrech y merched am bleidlais, a phroblemau cymhleth ein gwladwriaeth dramor i gyd yn pwyso ar y Prifweinidog ar yr un adeg. Wrth fesur a phwyso p'le y methai neu y llwyddai Asquith, dylid cofio beunydd am y baich a ddisgynnai ar Bennaeth y Llywodraeth yn anad neb arall, baich a achosid gan gyd-ddigwyddiadau parhaus." Y mae'n burion inni gadw hynny mewn cof, canys bernir Asquith i