Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er hyn, credaf fod galw taer am i blant y tir geisio mynegi eu profiad, printio'u gweledigaeth, a cheisio traethu yr anhraethadwy. Prin y gall yr un bywyd fod yn llawnach heddiw na bywyd y wlad ar ei orau. Braint i'w phrisio a chyfle i'w anwylo yw cael byw yn ei chôl. Drachtiais o gwpan dy wefus Yfais o rudd dy win, Ac ni bu ennyd mor felys A honno fin wrth fin. Profais hyd orwel fy enaid Gyfaredd maeth ein serch, Yn anterth y cyfnos euraid Meddwais ar wefus merch. Na ro i arall dy gwpan A chwerwi blas y gwin Dychwelaf y nos â chusan Yn Uosgi ar fy min. Gwaun-Cae-Gurwen. MEURIG WALTERS. R. DWYRYD WILLIAMS. MEDDWI