Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. II Rhif 8 Mor hawdd oedd addo! Does gan Ddyffryn Clwyd fawr o emynwyr.* Gwlad gwyr y Dadeni, gwlad cyfieithwyr y Beibl ydi hon ymhell cyn dyddiau'r emyn Cymraeg. Prin y bu i donnau ymchwydd diwygiad y ddeunawfed ganrif gyrraedd traethau anghysbell Dyffryn Clwyd o'r Deheudir pell. Ac nid pobl y mae eu teimladau crefyddol yn debyg o ffrwydro mewn emynau eirias mo brodorion y dyffryn bras hwn, ond yn hytrach pobl sad, synhwyrol, dymherus, y mae Emrys ap Iwan yn fwy nodweddiadol ohonynt na Morgan Rhys. Pwy sydd gennym ni? gofynnwn. Thomas Jones yn gyntaf un. Edward Jones, cwbl haeddiannol. Edward Parry hefyd, yr agosaf o ran amser ac o ran tymer i emynwyr y Diwygiad Methodistaidd. Ie, a Gwilym Hiraethog, pe ond am ei 'Dyma gariad fel y moroedd'. Ond dydi hi ddim mor hawdd cau y rhestr. Beth am emynwyr a dreuliodd ryw damaid o'u bywydau yma? Gweinidogion ymfudol y Wesleaid, er enghraifft, Ac fe gafodd Wesleaeth fwy o'i throed i lawr yn y cylchoedd hyn nag odid yn unrhyw ran o Gymru. Onid Edward Jones Bathafarn oedd sylfaenydd Wesleaeth Gymraeg, ac onid yn Rhuthun y sefydlwyd eglwys Gymraeg gyntaf yr enwad yn 1800, blwyddyn cychwyn eu 'cenhadaeth Gymreig'? Wedyn, am faint y mae'n rhaid i emynydd fod wedi byw yma i gyfreithioni rhoi ei enw yn ein rhestr? Fy nhuedd fydd eu corlannu yn hytrach na'u gwrthod. Nid yn gwbl ddiegwyddor chwaith. Er enghraifft, daeth Ieuan Glan Geirionydd yma yn giwrad yng Ngorffennaf 1854 a marw yn Ionawr 1855. Does gen i ddim digon o ŵyneb i'w hawlio fo, er mor falch fuaswn o'r esgus. Ond thâl hi ddim chwaith i neb graffu'n rhy fanwl am gysondeb egwyddor yn fy newisiad o bwy i'w gynnwys yn fy rhestr. Beth, er enghraifft, am Cynddelw (Robert Ellis; 1812-75)? Dechreuodd ef fel gweinidog yn Llanelian a Llanddulas ar 25 Medi 1836 am naw swllt yr wythnos (yn well na 7/- Gwilym Hiraethog ym Mostyn, a 3/6 yr wythnos Caledfryn druan yn Llannerch-y- medd). Oedd, roedd Cynddelw yn emynydd, neu roedd o'n meddwl ei fod. Roedd dau emyn ganddo yn Llyfr Emynau y Wesleyaid, dim Anerchiad a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru ar ddydd Mercher, 7 Awst 1985, ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl a'r Cyffiniau. Emynwyr Dyffryn Clwyd BWLETIN Golygydd: E. WYN JAMES, B.A. Rhifyn 1985-86