Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU/ Cyf. II Rhif 3 Golygydd: E. WYN JAMES, B.A. /Gorff. 1980 Sain a Synnwyr Anaml iawn heddiw y ceir ysgrif yn un o'r cylchgronau sy'n trafod safon canu cynulleidfaol y genedl ac yn awgrymu dulliau pendant i'w wella. Yr oedd cyhoeddi ysgrif yn ymwneud ag agwedd neu agweddau arbennig ar ein canu cynulleidfaol yn rhywbeth digon cyffredin ar un adeg yn ein hanes, fel y dangosir yn eglur yn rhai o'r hen gylchgronau cerddorol, ond am ryw reswm nid yw safon ein canu mawl yn golygu rhyw lawer i'r mwyafrif ohonom mwyach, neu o leiaf ni ddangosir digon o ddiddordeb ynddo i'w drafod yn agored ar ddu a gwyn. Bu adeg pan ymddiddorai aelodau eglwysig ddigon mewn canu mawl i anfon ysgrif i bapur newydd neu gylchgrawn er mwyn ceisio 'dosbarthu' emynau a genid yn rheolaidd ar y Sul, a thrwy hynny helpu'r sawl a fyddai'n gyfrifol am ddewis tonau ar gyfer yr emynau a genid. Yr oedd yna'r fath bethau ag 'emynau o fawl', 'emynau o anogaeth', ac 'emynau o fyfyrdod', meddant, ac fe ddylid ar bob cyfrif gadw hynny mewn cof wrth ddewis tonau i ganu'r emynau arnynt yng ngwasanaethau'r Sul! Chwarae teg i'r tadau; yr oeddynt yn cydnabod mai dim ond y gorau a wnâi'r tro fel cyfrwng i gyfarch y Brenin Mawr, ac yn ceisio gwneud rhywbeth er mwyn addysgu'r addolwyr, a thrwy hynny godi safon y canu cynulleidfaol. Ond daeth tro ar fyd; nid oes fawr neb yn awr yn poeni rhyw lawer pa donau a osodir i ganu'r emynau arnynt, ar yr amod bod 'y mesur' yn iawn, a'r gynulleidfa yn 'cael hwyl' ar y canu. Bydd pawb yn fodlon cydnabod yn reit onest bod y canu yn ffurf ar addoliad, a hefyd bod canu synhwyrol, deallus (a dyfynnu Elfed) 'yn dyfnhau ein mawl ac yn perffeithio ein haddoliad'. Ond fe anghofir yn lân y gall hwyl y dôn beryglu urddas yr emyn, a pheri i'n canu fynd yn rhywbeth hollol afreal a diystyr. Dynion prin iawn eu manteision cerddorol oedd amryw o'r cerddorion hynny a fu'n flaenllaw gyda chanu cynulleidfaol y genedl yn y ganrif o'r blaen. Dyna John Ambrose Lloyd, yr Wyddgrug, er enghraifft; ni chafodd ef erioed awr o addysg gerddorol, yn ôl yr hanes, a'i unig batrymau wrth astudio cerddoriaeth i bwrpas cyfansoddi tonau cynulleidfaol ac anthemau oedd rhai o weithiau'r Crynodeb o anerchiad a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru yng Nghapel Pen-dref, Caernarfon, 8 Awst 1979, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon.