Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. 1. Golygydd Y Parch. Gomer M. ROBERTS, M.A. Gorff. Rhif 9. Llandybïe, Dyfed. 1976 EMYNWYR EIFIONYDD* BU cryn fywiogrwydd llenyddol yn Eifionydd o ddyddiau Owen Gruffudd o Lanystumdwy, a aned tua 1643. Yr oedd yno nifer go fawr o fan feirdd yn y ddeunawfed ganrif, ac y mae enwau rhai ohonynt yn adnabyddus, fel William Elias a Siôn Lleyn a Robert Morris, taid Elis Wyn o Wyrfai. Yr oedd yno amryw o wyr nod- edig yn y ganrif ddiwethaf, fel Bardd TreHys, Cawrdaf, Ioan Madog, Robert Hughes, Uwchlawrffynnon, Taliesin o Eifion a Nicander. Ond y rhai enwocaf o feibion y cwmwd oedd tri a arhosodd yno trwy eu hoes, sef Robert ap Gwilym Ddu, Dewi Wyn ac Ellis Owen, un a aeth dros y ffin i Arfon, sef Eben Fardd, a dau a aeth ymhellach-Richard Jones i'r Wern, Llanfrothen, a Phedr Fardd i Lerpwl. Mewn erthygl yn Y Traethodydd yn 1906 y mae Glaslyn yn dweud fel hyn: "Yr oedd beirdd Eifionydd yn hynod am eu gallu i gasglu cyfoeth, yn ogystal ag am eu dawn i'w gadw ar ôl ei gael." Y mae hyn yn wir am y tri cyntaf a nodwyd, tri ffarmwr graenus a llwyddiannus, yn profi fod crefydd a chyfoeth a chân yn drindod gytûn, os nad sanctaidd. Er nad oedd Eben Fardd mor ffyniannus â'r lleill, yr oedd mor grintachlyd â neb, fel y dangosodd trwy wrthod cardod i'w chwaer ei hun, a honno mewn dygn eisiau. Yr hoffusaf o ddigon o'r beirdd hyn oedd Pedr Fardd, a bron na ddywedwn ei bod yn iechyd darllen ei hanes yn cael ei dorri allan o'r seiat am ryw anturiaeth fercheta ddigon diniwed. (Cawsom ei hanes yn Lerpwl gan Mr. O. E. Roberts mewn erthygl ragorol yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, lix, 36). Sylwedd anerchiad a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru yng Nghapel Salem, Cricieth, 6 Awst, 1975, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor.